Makarios III | |
---|---|
Ganwyd | Μιχαήλ Χριστοδούλου Μούσκος 13 Awst 1913 Pano Panagia |
Bu farw | 3 Awst 1977 South Nicosia |
Dinasyddiaeth | Cyprus |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, clerig, diacon |
Swydd | Arzobispo de Nova Justiniana y Todo Chipre, esgob, Arlywydd Cyprus, Arlywydd Cyprus, Arlywydd Cyprus |
Gwobr/au | Order of the Nile, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen |
llofnod | |
Makarios III | |
---|---|
Arlywydd Gweriniaeth Cyprus | |
Yn ei swydd 16 Awst 1960 – 15 Gorffennaf 1974 | |
Vice President | Dr. Fazıl Küçük |
Rhagflaenwyd gan | swydd newydd |
Dilynwyd gan | Nikos Sampson (o ganlyniad i coup d'état yn erbyn Makarios - 15–23 Gorffennaf 1974) |
Yn ei swydd 7 Rhagfyr 1974 – 3 Awst 1977 | |
Rhagflaenwyd gan | Glafcos Clerides (arlywydd dros dro yn ôl cyfansoddiad Cyprus, 23 Gorffennaf – 7 Rhagfyr 1974) |
Dilynwyd gan | Spyros Kyprianou |
Archesgob Eglwys Uniongred Cyprus ac Arlywydd Cyprus oedd Makarios III (Groeg (iaith): Μακάριος Γ; 13 Awst 1913 – 3 Awst 1977).
Ganwyd Mikhail Khristodolou Mouskos (Groeg (iaith): Μιχαήλ Χριστοδούλου Μούσκος) i deulu o ffermwyr Cypriaidd Groegaidd yn Panagia, ger dinas Paphos yn ne-orllewin Cyprus. Ar ôl iddo ddod yn Archesgob Cyprus ym 1950, cymerodd rôl flaenllaw wrth gefnogi enosis, sef undeb rhwng Cyprus a Gwlad Groeg. Roedd Cyprus dan reolaeth Prydain ar y pryd, oedd yn dymuno rhoi annibyniaeth i'r ynys. Roedd gwrthwynebiad i'r syniad hwn gan gefnogwyr enosis, yn bennaf y mudiad terfysgol EOKA. Cyhuddwyd Makarios o fod yn aelod o EOKA, a chafodd ei alltudio i'r Seychelles gan Brydain ar 9 Mawrth 1956. Wedi i EOKA gynnig cadoediad â Phrydain, rhoddwyd caniatâd i Makarios adael, ond nid i ddychwelyd i Gyprus. Gadawodd Mahé ar 6 Ebrill 1957, gan deithio i Madagasgar ac yna i Athen ar long a ddarparwyd gan Aristoteles Onassis a llywodraeth Groeg.[1]
Dychwelodd i Gyprus, gan gadw ei wrthwynebiad i annibyniaeth yn ddawel, ac ym 1960 daeth yn arlywydd y weriniaeth newydd. Ymdrechodd ar y cychwyn i gadw cydbwysedd rhwng cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd yr ynys, ond ym 1963 cynigodd Makarios newidiadau i'r cyfansoddiad i ddiddymu'r drefn o rannu grym rhwng y cymunedau Groegaidd a Thwrcaidd. O ganlyniad bu trais rhwng cymunedau'r ynys, ac ym 1964 daeth heddgeidwaid y Cenhedloedd Unedig i Gyprus.[2] Yn ogystal â dieithrio'r Cypriaid Twrcaidd, llwyddodd Makarios i ddigio llywodraeth Gwlad Groeg a nifer o Gypriaid Groegaidd gan droi ei gefn ar enosis a chydnabod manteision annibyniaeth yr ynys. O safbwynt Makarios, bydd Twrci yn ymyrryd i atal enosis; yn ôl y Cytundeb Gwarantu rhwng Cyprus, Groeg, Prydain a Thwrci, nid oedd Cyprus i uno ag unrhyw wlad arall, ac roedd hawl gan wledydd eraill y cytundeb i atal hynny rhag digwydd.[3]
Ni lwyddodd Makarios i berswadio Cypriaid Groegaidd o'r angen i roi enosis i un ochr. Ar 15 Gorffennaf 1974 cafodd ei ddymchwel mewn coup d'état gan EOKA B a gefnogwyd gan Warchodlu Cenedlaethol Cyprus a'r jwnta filwrol yng Ngwlad Groeg. Wnaeth Makarios ffoi i'r Deyrnas Unedig.[4] Pwrpas y coup oedd i uno Cyprus â Groeg, ond daeth rhagwelediad Makarios o ymyrraeth Dwrcaidd yn wir. Goresgynnwyd yr ynys gan Dwrci, gan rannu'r wlad a sefydlu Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus. Daeth Lywydd Tŷ'r Cynrychiolwyr, Glafcos Clerides, yn Arlywydd Cyprus nes i Makarios ddychwelyd yn Rhagfyr 1974.[2] Gwasanaethodd Makarios fel arlywydd hyd ei farwolaeth o drawiad ar y galon yn Nicosia ym 1977.